Llety yn Borth

Llety

Ystafelloedd Gwely

Mae’r ystafelloedd gwely, sydd ar y llawr cyntaf a’r ail, yn amrywio o ran maint o ystafelloedd sengl i ystafelloedd teulu a naill ai’n wynebu’r môr neu Warchodfa Natur Cors Fochno, sydd â Mynyddoedd Cambria y tu cefn iddi. Mae cyfleusterau gwneud te a choffi, a gwres canolog neu sefydlog, ym mhob ystafell, ac mae gan y rhan fwyaf deledu lliw ac mae cwpl yn en suite.

Prydau a Bar

Mae bar lolfa ‰ stoc dda sy'n cynnwys cwrw drafft a lager.

Parcio a Chludiant

Gall y rhai sy’n teithio mewn car naill ai ddefnyddio’r maes parcio preifat yng nghefn y gwesty neu’r lle eang mwy pobolgaidd yn nhu blaen y gwesty. Taith gerdded bum munud hawdd yw hi i’r orsaf drenau ac mae’r bws sy’n pasio bob awr yn aros fwy neu lai y tu allan i’r drws ffrynt.

Cyfleusterau Ychwanegol i Letywyr

Weithiau y ffordd orau o brofi cefn gwlad Cymru yw drwy naill ai seiclo neu gerdded a gellir darparu ar gyfer y naill garfan a’r llall yng Ngwesty Glanmor. Ceir cyfleusterau ar gyfer sychu dillad gwlyb a garej i storio beiciau dros nos. Os byddwch yn symud o un lle i’r llall, gellir anfon bagiau ymlaen mewn car i’r gyrchfan nesaf.

Prisiau ac Archebu Lle

Mae croeso i unrhyw un aros ar unrhyw adeg drwy’r flwyddyn a’r pris yw £40 y person y noson, a phlant ifanc am hanner pris. Argymhellir yn gryf eich bod yn archebu lle, yn enwedig rhwng y gwanwyn a’r hydref, a dim ond ar y ffôn y gellir gwneud hynny. I archebu lle, ffoniwch ni ar 01970 871689.