Cwestiynau a Holir yn Aml - FAQs
A oes digon o le parcio yng Ngwesty Glanmor?
Oes, mae gennym le parcio preifat yng nghefn y gwesty a digon o le parcio ar y ffordd yn y tu blaen.
A oes cysylltiadau cludiant cyhoeddus da ar gael i Westy Glanmor?
Oes, mae’r orsaf drên bellter cerdded hawdd o bum munud o’r gwesty ac mae’r bws sy’n dod bob awr yn aros fwy neu lai y tu allan i’r drws ffrynt.
A oes dewisiadau ar gyfer brecwast?
Oes, gallwch ddewis o’r fwydlen amrywiol y noson cynt.
Beth yw’r prisiau am lety yng Ngwesty Glanmor?
Cost llety yng Ngwesty Glanmor yw dim ond £35 y person y noson drwy gydol y flwyddyn, a phlant ifanc am hanner pris.
A ydych chi’n derbyn cardiau credyd?
Yn anffodus, nac ydym. Drwy osgoi’r gost o gardiau credyd a T.A.W fel ei gilydd rwy’n gallu cynnig y pris cystadleuol fforddiadwy hwn.
Sut mae archebu llety yng Ngwesty Glanmor?
Ffoniwch (+44 (0)1970 871689) i archebu a gweld a oes lle ar gael, neu unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych.
A oes unrhyw le i fwyta yn lleol?
Mae amrywiaeth o ddewisiadau bwyta ar gael yn Borth ei hun yn cynnwys prydau yn y tafarnau lleol ac ystod o gaffis, tai bwyta a bwyd i fynd gyda chi. Ychydig ymhellach ceir rhagor o bosibiliadau fel y Wildfowler yn Nhre’r Ddol, neu Dafarn Rhydypennau a’r Welsh Black yn Bow Street. Dim ond 7 milltir i ffwrdd yw Aberystwyth ac mae yno ystod enfawr o fwytai o wahanol wledydd.
A oes unrhyw atyniadau lleol i ymwelwyr?
Oes, mae digon i’w wneud i’r teulu i gyd. Edrychwch ar ein tudalen ar atyniadau yn Borth yn y fan yma neu ein tudalen am weithgareddau ac atyniadau lleol yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ffoniwch Westy Glanmor Hotel ar +44 (0)1970 871689