Gweithgareddau ac Atyniadau yn agos i Borth

Gweithgareddau ac Atyniadau

Aberystwyth

Dim ond 7 milltir i ffwrdd, a’r fwyaf yn yr ardal, ceir tref brifysgol Aberystwyth, sy’n ehangu’n gynyddol. Mae ganddi lawer o atyniadau megis traethau, pier, mannau siopa, canolfan hamdden, cwrs golff, rheilffordd clogwyn a’r camera obscura mwyaf yn y byd. Mae yno hefyd amrywiaeth fawr o fwytai o wahanol wledydd ac mae’n bendant yn werth i unrhyw un sy’n aros yn y rhan hon o Gymru fynd yno ar ymweliad.

Machynlleth

Hanner ffordd i Fachynlleth ar yr A487, mae’r afon Einon yn gyrru olwyn dd_r hanesyddol yn Ffwrnais. Gerllaw mae Gwarchodfa Natur RSPB Ynys Hir, sy’n werth ymweld â hi ar unrhyw adeg o’r flwyddyn i weld yr adar yn bwydo ar Aber y Ddyfi.

Dair milltir y tu hwnt i Fachynlleth, yn dal ar yr A487, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, canolfan ecolegol arloesol sy’n cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol ac enghreifftiau sy’n gweithio o fyw’n gynaliadwy, ynni adnewyddol ac adeiladu sy’n dangos cyfrifoldeb at yr amgylchedd yn ogystal â garddio organig.

Atyniadau a Gweithgareddau Eraill

Mae taflenni sy’n rhoi manylion am y rhain a llawer o atyniadau eraill ar gael yng Ngwesty Glanmor

Dyma rai o’r pethau eraill i’w gwneud neu eu gweld yn lleol:

  • Mordeithiau arfordirol o Aberaeron neu Gei Newydd i weld dolffiniaid a morloi
  • Gorsafoedd bwydo barcutiaid yn Nant-yr-Arian a Thregaron
  • Canolfannau hamdden yn Aberystwyth a Machynlleth
  • Bowlio Deg yng Nghlarach ac Aberystwyth
  • Marchogaeth yn Nhaliesin a Chapel Bangor
  • Beicio Cwad ym Machynlleth
  • Cloddfa arian a phlwm Llywernog
  • Pysgota yn y môr o’r traeth neu bysgota bras yng Nghronfa Dinas
  • Beicio mynydd yn Nant-yr-Arian neu Fachynlleth
  • Hwylfyrddio, syrffio, barcud syrffio a chwaraeon arfordirol eraill ar y traeth yn Borth