Pethau i'w gweld a'u gwneud yn Borth

Lleoliad

Borth a’r Traeth

Pentref glan môr tawel sydd wedi osgoi’r masnacheiddio arferol yw Borth ac o ganlyniad dim ond pan gaiff ymwelwyr eu denu, yn dibynnu ar y tywydd a gwyliau ysgol, i un o draethau gorau gorllewin Cymru, y mae’n troi’n brysur. Mae’r traeth hir, tywodlyd, yn ddiogel ac yn ddelfrydol i deuluoedd, mae hefyd yn draeth syrffio poblogaidd ac mae’n berffaith ar gyfer chwaraeon d_r eraill fel hwylfyrddio, barcud syrffio a hwylio.

Anifeilfa Borth

Atyniad poblogaidd i bobl sy’n ymweld â Borth yw’r Anifeilfa, sef casgliad o anifeiliaid anarferol a diddorol ynghyd â pharau a heidiau magu o rywogaethau egsotig a phrin y mae eu cynefin naturiol dan fygythiad.

Cwrs Golff Borth ac Ynyslas

Dim ond 300 llath o’r gwesty yw’r cwrs golff glan môr 18 twll, sy’n un o’r hynaf yng Nghymru. Mae croeso yno i ymwelwyr heb dalu unrhyw ffi ymuno ac mae gan letywyr Gwesty Glanmor hawl i gael talebau gostyngiad tuag at ffioedd grîn.

Gwarchodfeydd Natur

I’r gogledd o’r cwrs golff mae Gwarchodfa Natur helaeth Twyni Tywod Ynyslas sy’n cynnwys canolfan addysgol i ymwelwyr. I’r dwyrain, yn ffinio ar afon lanwol Leri, mae Cors Fochno, gwlypdir dan warchodaeth sy’n dir bwydo i adar preswyl ac ymfudol fel ei gilydd.

Cyfleusterau Lleol

O fewn pentref Borth, yn ogystal â’r siopau bach arferol, ceir tair tafarn, dwy ohonynt yn darparu bwyd ynghyd ag ychydig dai bwyta a th_ cyrri Tandoori sydd newydd agor.